GWEINIDOGION Y DU YN GWEITHREDU MEWN MEYSYDD DATGANOLEDIG
|
|
91 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Cyfyngiadau Chernobyl a Fukushima) (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 Wedi'u gosod yn Senedd y DU: 4 Chwefror 2019 |
|
Sifftio |
|
Yn destun gwaith sifftio yn Senedd y DU? |
Na |
Y weithdrefn: |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Dd/B |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw’n hysbys |
Dyddiad y daw'r cyfnod sifftio i ben yn Senedd y DU |
Dd/B |
Datganiad ysgrifenedig o dan Reol Sefydlog 30C: |
Papur 13 |
Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol (SICM) o dan Reol Sefydlog 30A (oherwydd eu bod yn diwygio deddfwriaeth sylfaenol) |
Nid yw’n ofynnol |
Gweithdrefn graffu |
|
Canlyniad y broses sifftio |
Dd/B |
Y weithdrefn |
Cadarnhaol |
Dyddiad trafod gan y Cydbwyllgor ar Offerynnau Statudol |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Offerynnau Statudol Ewropeaidd Tŷ'r Cyffredin |
Nid yw'n hysbys |
Dyddiad trafod gan Bwyllgor Craffu ar Is-ddeddfwriaeth Tŷ'r Arglwyddi |
Nid yw'n hysbys |
Sylwadau
Cynigir bod y Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU yn unol ag adran 8(1) o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio cyfraith yr Undeb Ewropeaidd a ddargedwir mewn cysylltiad â mewnforio bwyd a bwyd anifeiliaid o wledydd yr effeithir arnynt gan ddamweiniau Chernobyl a Fukushima i roi cyfeiriadau domestig yn lle'r rhai ar gyfer sefydliadau'r UE. Mewn perthynas â Chymru, mae hynny'n golygu rhoi cyfeiriadau at Lywodraeth Cymru (fel yr awdurdod priodol) a'r Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer cyfeiriadau at y Comisiwn Ewropeaidd ac Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, yn y drefn honno.
Mae'r Cynghorwyr Cyfreithiol yn cytuno â'r datganiad a osodwyd gan Lywodraeth Cymru dyddiedig 5 Chwefror 2019 ynghylch effaith y Rheoliadau hyn.]
Mae'r crynodeb uchod a chynnwys y Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau hyn yn cadarnhau eu heffaith ac i ba raddau y byddai'r Rheoliadau hyn yn deddfu polisi newydd mewn meysydd datganoledig.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol o'r farn bod unrhyw faterion sylweddol yn codi o dan baragraff 8 o'r Memorandwm ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.
Nid yw Cynghorwyr Cyfreithiol wedi nodi unrhyw reswm cyfreithiol i geisio am gynnig cydsyniad o dan Reol Sefydlog 30A.10 mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn.]
|